Sut i gymryd rhan

Rydym yng nghyfnodau cynnar iawn datblygu ein cynnig ar gyfer Fferm Wynt Glyn Cothi. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn cynnal ein hymgynghoriad anffurfiol cyntaf, pan allwch ddisgwyl i ni rannu gwybodaeth fanylach am ein cynlluniau a’n harolygon, a chynnal digwyddiadau ymgynghori wyneb yn wyneb ac ar-lein lle bydd cyfle i chi gwrdd â thîm y prosiect.

Byddwn yn mynd allan i gwrdd â phobl ac yn mynychu digwyddiadau lleol, i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect a chlywed gan bobl sut y gallwn wneud hwn y prosiect gorau i’r gymuned leol ac i Gymru.

Y flwyddyn nesaf, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein cais cynllunio drafft llawn gan roi cyfle i aelodau’r cyhoedd ac ymgyngoreion statudol roi adborth.

Tanysgrifiwch i gylchlythyr Glyn Cothi

Cofrestrwch i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect gan y tîm

Tanysgrifiwch

Rydym ni eisiau clywed wrthoch chi

Rydym yn croesawu adborth a chwestiynau unrhyw bryd, felly cysylltwch â thîm y prosiect os oes gennych unrhyw ymholiadau.

Cysylltwch â ni