Gwybodaeth am y prosiect

Mae buddiannau ac anghenion cymunedau Cymru wrth wraidd Trydan Gwyrdd Cymru.

Cymdeithasol ac economaidd

Gan gydweithio'n agos â Chyfoeth Naturiol Cymru (sy'n rheoli Coedwig Brechfa ar ran Llywodraeth Cymru), tirfeddianwyr a chymunedau lleol, Cyngor Sir Gaerfyrddin, a rhanddeiliaid lleol eraill, byddwn yn archwilio cyfleoedd i wireddu manteision economaidd-gymdeithasol hirdymor i gymunedau lleol a Chymru gyfan drwy gydol cyfnodau datblygu, adeiladu a gweithredu ein prosiect.

Amgylchedd

Yn ogystal â chyfrannu at nod sero net Cymru ar gyfer 2050, mae gan Fferm Wynt Glyn Cothi y potensial i gael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd lleol. Bydd y mathau o fuddion amgylcheddol y byddwn yn chwilio amdanynt yn amrywio o gyfleoedd i wella rhai cynefinoedd lleol i wella amodau ar gyfer rhywogaethau allweddol.

Mae asesu effeithiau amgylcheddol posibl yn rhan allweddol o'r broses gynllunio. Rydym wedi dechrau ein hasesiadau ac arolygon a fydd yn edrych ar yr effeithiau posibl canlynol y gallai'r datblygiad arfaethedig eu cael ar:

  • Y dirwedd a'r effaith weledol
  • Ecoleg
  • Adareg
  • Sŵn
  • Hydroleg
  • Priddoedd a mawn
  • Trafnidiaeth a mynediad

Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth am ein canfyddiadau dros dro yn ddiweddarach eleni pan fyddwn yn cynnal yr ymgynghoriad anffurfiol ar ein cynlluniau.

Y broses gynllunio

Eleni, bydd Deddf Seilwaith (Cymru) newydd yn cael ei gweithredu. Fel prosiect sy'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy ac sydd â chapasiti o dros 50 MW, diffinnir Fferm Wynt Glyn Cothi yn y Ddeddf fel Prosiect Seilwaith Sylweddol. Bydd Trydan yn gwneud cais i Benderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC), adran o Lywodraeth Cymru, am Ganiatâd Seilwaith ar gyfer Fferm Wynt Glyn Cothi.

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyn-ymgeisio statudol lle byddwn yn cyflwyno ein 'cais cynllunio llawn drafft' i ymgyngoreion roi adborth arno.

Bydd Arolygydd Cynllunio annibynnol yn archwilio'r cais ac yn gwneud argymhelliad i Weinidogion Cymru a ddylid rhoi caniatâd cynllunio. Gwneir y penderfyniad terfynol gan Weinidogion Cymru.

Bydd y broses archwilio ei hun yn craffu’n llawn ar y cynlluniau, felly bydd caniatâd cynllunio yn sicrhau bod y dyluniad yn cydymffurfio ag ystyriaethau cynllunio perthnasol. Bydd amodau cynllunio’n cael eu gosod a'u rhyddhau gan sicrhau bod adeiladu, gweithredu a datgomisiynu yn bodloni safonau perthnasol.

Mae'n ofynnol i Trydan gadw at yr holl reolau cynllunio llym y mae'n rhaid i ddatblygwyr preifat eu bodloni, ac rydym yn cael ein dal i'r un safonau.

Mae gwaith Trydan yn cael ei oruchwylio gan Aelod Cabinet Llywodraeth Cymru sy'n diffinio ein cylch gwaith, ac mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio yn goruchwylio ein gweithgareddau. Bydd Aelod Cabinet gwahanol yn gyfrifol am benderfynu a yw ein prosiectau'n cael caniatâd cynllunio.