Mae diogelu'r amgylchedd a gwella natur yn flaenoriaeth i Trydan, ac mae digonedd o gyfleoedd i wneud hyn yn ein safle yng Nglyn Cothi yng Nghoedwig Brechfa, Sir Gaerfyrddin, lle mae gwaith arolygu ecoleg ac adareg eisoes yn mynd rhagddo.
Rydym yn cyflogi ymgynghorwyr annibynnol arbenigol i'n cynghori ac i ymgymryd â'r gwaith, sy'n dechrau gydag adolygiad o wybodaeth bresennol o lu o ffynonellau, a gasglwyd yn aml dros nifer o flynyddoedd, sy’n disgrifio nodweddion naturiol, amgylcheddol a chymdeithasol-economaidd.
Mae Fferm Wynt gyfagos Coedwig Brechfa, a ddaeth yn weithredol yn 2017, hefyd yn rhoi gwybodaeth amgylcheddol leol werthfawr a gwersi allweddol i ni ar leihau effeithiau a gwella bioamrywiaeth yn llwyddiannus.
Ar ôl i ni adolygu'r wybodaeth bresennol, y cam nesaf yw cynnal arolygon lleol pwrpasol ac ymchwiliadau â ffocws. Ein nod yw deall ymddygiad yr holl rywogaethau ar y safle yn llawn, a'r mathau o gynefinoedd y maent yn byw ynddynt.
Yn achos ein datblygiad arfaethedig yng Nglyn Cothi, y timau adareg ac ecoleg oedd y cyntaf ar y safle.

Arolygu bywyd adar ar y safle
Mae adaregwyr ymhlith yr arbenigwyr cyntaf ar y safle gan fod angen cynnal arolygon adar dros ddwy flynedd fel bod bywyd adar yn y safle ac o’i amgylch yn cael ei arsylwi a'i gofnodi dros sawl tymor, gan gynnwys y tymor bridio hollbwysig.
Mae llawer o'r gwaith yn cynnwys arsylwi ac mae ein timau allan am oriau, wedi'u harfogi ag ysbienddrych, telesgopau, llechen sy'n defnyddio GIS - a fflasg o de! - yn nodi rhywogaethau ac ymddygiad adar yn fanwl.
Arolygon Gweithgarwch Hedfan
Un o'r asesiadau pwysicaf y mae angen i ni eu gwneud yw'r risg o adar yn gwrthdaro â'r tyrbinau, fel y gellir lleoli tyrbinau i osgoi a lleihau hyn cyn lleied â phosibl. Mae Arolygon Gweithgarwch Hedfan yn cofnodi'r lleoliadau a'r uchderau y mae adar yn hedfan arnynt, amlder hedfan, a'r amser o'r dydd y maent yn bresennol yn yr awyr uwchben y safle.

Arolygon Dosbarthiad a Nifer
Mae adaregwyr hefyd yn cynnal Arolygon Dosbarthiad a Nifer, sy’n asesu pa fathau o adar sy'n byw ar y safle neu'n ei ddefnyddio; yn bwydo neu'n nythu yno; neu’n ei ddefnyddio fel safle ar gyfer clwydo – mae barcutiaid coch, er enghraifft, yn aml yn clwydo gyda’i gilydd yn y gaeaf.
Mae'r gwaith hwn yn fanwl iawn ac mae casglu gwybodaeth yn dasg enfawr ac yn aml yn cymryd hyd at 1000 o oriau!
Mae ein prosiect Glyn Cothi mewn planhigfa fasnachol o goed conwydd, nad yw fel arfer yn cynnal cymuned adar amrywiol. Serch hynny, mae rhai adar diddorol iawn yn defnyddio'r safle yn enwedig adar ysglyfaethus fel y gwalch Marthin, y bwncath, y cudyll coch, y tingoch a'r troellwr. Mewn gwirionedd, mae rhai ardaloedd yn arbennig o boblogaidd gyda throellwyr!

"Willow tit, Poecile montanus", gan Erik Karits, am ddim i'w ddefnyddio o dan Drwydded Cynnwys Pixabay
Titw'r helyg
Un o genadaethau Trydan yw gwella cynefinoedd ar gyfer titw'r helyg, rhywogaeth brin iawn o aderyn sydd ar y Rhestr Goch.
Mae'r term "Rhestr Goch" mewn perthynas â thitw'r helyg yn cyfeirio at y Rhestr Goch o Adar o Bryder Cadwraethol, sef dosbarthiad o rywogaethau adar yn y DU sy'n wynebu'r lefelau mwyaf difrifol o ddirywiad ac felly mae angen gweithredu cadwraethol. Mae titw'r helyg wedi'i ddosbarthu fel Coch oherwydd gostyngiad sylweddol yn ei boblogaeth.
Dywedodd ein partneriaid – Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n rheoli'r goedwig – wrthym ar y dechrau y gallai titw'r helyg fod yn bresennol mewn coedwigoedd ledled Cymru. O ganlyniad, gofynnodd Trydan i’r adaregwyr gynnal arolygon wedi'u targedu i ddod o hyd i'r aderyn prin a diddorol hwn, ac mae’n bleser adrodd bod titwod yr helyg yng Nglyn Cothi!
Mae hwn yn aderyn sy'n ffafrio coetir gwlyb, yn enwedig ardaloedd â choetir llaith, ifanc, sy'n adfywio ac sy'n cynnwys hen bren marw. Rydym wrth ein bodd bod titwod yr helyg wedi dod o hyd i gartref yng Nglyn Cothi ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan i sicrhau bod eu poblogaeth yn tyfu ac yn ffynnu ar y safle.
Bioamrywiaeth yng Nglyn Cothi – arolygu'r planhigion a'r anifeiliaid ar y safle
Mae'r timau ecoleg hefyd ar y safle yn gynnar yn y broses ddatblygu, fel arfer tua blwyddyn ar ôl i'r adaregwyr ddechrau eu gwaith. Yng nghyd-destun Glyn Cothi, dechreuodd ein hecolegwyr eu gwaith ym mis Gorffennaf 2025, gan asesu cynefinoedd a rhywogaethau.
Mae'n bosibl bod y goedwigaeth fasnachol ar y safle wedi annog rhywogaethau coetir arbenigol fel y Wiwer Goch, y Bele a'r gwalch Marthin i fod yn bresennol a bydd ein syrfewyr allan ar y safle yn chwilio am dystiolaeth o'r rhain. Byddant hefyd yn chwilio am boblogaethau o ddyfrgwn a madfallod dŵr cribog o fewn y gwlypdiroedd a'r dyfrffyrdd. Os canfyddir unrhyw un o'r rhywogaethau hyn, byddwn yn mynd ati i wella'r cynefinoedd cynhaliol fel y gall poblogaethau'r rhywogaethau hyn dyfu a ffynnu.
Ond yn gyntaf, rhaid i ni ddarganfod beth sydd yno! I wneud hyn, mae ein hecolegwyr yn dechrau trwy ddod i adnabod y safle, ac nid oes ffordd well o wneud hyn na thrwy wisgo esgidiau glaw a cherdded!
Yn ystod y daith gerdded, mae'r ecolegwyr yn nodi ardaloedd sydd angen arolwg mwy manwl, fel cynefinoedd brodorol ble na fu erioed unrhyw blanhigfa fasnachol, ymylon y goedwig, ardaloedd agored ac ochrau ffyrdd.
Maent hefyd yn chwilio am unrhyw arwydd y gallai rhywogaethau gwarchodedig fod yn bresennol – arwyddion fel olion traed, baw, tystiolaeth o fwydo, a chartrefi anifeiliaid fel y nythod y mae gwiwerod coch yn eu gwneud.
Mae rhywogaethau sydd dan fygythiad yn cael peth o'r diogelwch gorau yn ôl y gyfraith, ac mae'r rhain yn cynnwys y fadfall ddŵr gribog fawr, a rhai rhywogaethau o ystlumod. Mae dod o hyd i'r anifeiliaid hyn yn gofyn am rywfaint o arbenigedd technegol ac offer arbenigol. Defnyddir synwyryddion acwstig i wrando ar alwadau ystlumod, ac mae meddalwedd AI datblygedig yn helpu i benderfynu ar yr union rywogaeth. Yng nghyd-destun y fadfall ddŵr gribog fawr, cymerir samplau dŵr o'r safle a phrofir DNA yn y labordy.
Amddiffyn a gwella
Mae gan y timau adareg ac ecoleg nifer o nodau. Fel cam cyntaf, mae angen iddynt sefydlu llinell sylfaen gynhwysfawr o'r safle fel y mae pethau ar ddechrau'r prosiect. Mae hyn yn galluogi cymariaethau i gael eu gwneud ymhellach ymlaen (wrth i'r prosiect ddatblygu) ynghylch cynnydd ac effeithiau.
Mae angen i'r timau ddatblygu gwerthfawrogiad gwirioneddol o'r safle fel y gellir rheoli'r datblygiad â chymaint o gydymdeimlad â phosibl ac mewn ffordd sy'n amddiffyn natur.
Ond nid dim ond casglu data i leihau a diogelu'r hyn sydd yno eisoes yw'r nod. Drwy gydol eu gwaith, mae ein hadaregwyr a'n hecolegwyr bob amser yn cadw llygad ar fesurau ychwanegol y gellid eu cymryd fel rhan o'r datblygiad i wella amodau ar gyfer natur fel y gall hyd yn oed mwy o rywogaethau planhigion ac anifeiliaid ffynnu ar y safle.
Gan fod Glyn Cothi yn safle mawr, mae nifer o gyfleoedd i weithio'n gadarnhaol ar gynefinoedd sydd ychydig ymhellach i ffwrdd o ble mae'r seilwaith.
Fel man cychwyn, rydym yn chwilio am welliannau sy'n gymharol hawdd eu cyflawni trwy reoli'r safle o ddydd i ddydd, er enghraifft ailblannu ardaloedd gyda chymysgedd mwy priodol o rywogaethau planhigion, yn enwedig coed llydanddail. Byddwn yn ceisio amrywio strwythur y coetir a chysylltu gwahanol bocedi o goetir brodorol i ddarparu coridorau i rywogaethau anifeiliaid eu croesi.
Buddugoliaeth fawr arall i natur yw rheoli draenio i wneud ardaloedd yn wlypach. Mae gwneud hyn, ac yna gadael natur i fynd ar ei liwt ei hun, yn cynhyrchu canlyniadau cyflym a diddorol.
Gwella bioamrywiaeth – dyletswydd statudol
Mae gwella bioamrywiaeth yn ofyniad statudol ar gyfer datblygiadau yng Nghymru - a elwir yn Fudd Net ar gyfer Bioamrywiaeth. Cyflwynodd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 y ddyletswydd gyfreithiol hon ar bob awdurdod cyhoeddus, a elwir fel arfer yn "Ddyletswydd Adran 6", sy’n ei gwneud yn ofynnol bod yn rhaid i'r datblygiad adael "bioamrywiaeth a gwydnwch ecosystemau mewn cyflwr llawer gwell nag o'r blaen, trwy sicrhau budd tymor hir, mesuradwy a dangosadwy, yn bennaf ar y safle neu'n union gerllaw."
Darllenwch fwy am fwyhad bioamrywiaeth
Rydym ni eisiau clywed wrthoch chi
Cenhadaeth Trydan yw datblygu trydan glân, gwyrdd gan ddefnyddio cyflenwad toreithiog Cymru o adnoddau naturiol. Wrth ddilyn ein cenhadaeth, mae cyfle gennym i wneud pethau gwych eraill hefyd. Yng nghyd-destun yr ystâd goetir, rydym yn benderfynol o gynyddu amrywiaeth rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid ar y safle a chreu cynefinoedd ble gallant dyfu a ffynnu. Os ydych chi'n rhan o grŵp natur lleol neu os oes gennych syniadau yr hoffech eu cyfrannu at ein gwaith ecoleg ac adareg, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â ni