View looking north towards the proposed Glyn Cothi Wind Farm. The Exisiting Brechfa Wind farm can be seen to the West

Fferm Wynt Glyn Cothi

Bydd ynni adnewyddadwy’n rhoi’r pŵer i Gymru ffynnu.
Yn ein cenedl, bydd pobl a natur yn gweithio gyda'i gilydd ar gyfer dyfodol glanach a mwy disglair.

Trydan Gwyrdd Cymru (Trydan) yw datblygwr ynni adnewyddadwy Cymru sy'n eiddo llwyr i Lywodraeth Cymru. Rydym yn ymchwilio i'r potensial ar gyfer ffermydd gwynt newydd gyda storfa ynni batri o fewn nifer o flociau Ystad Goetir Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Coedwig Brechfa. Wedi'i lleoli tua 20km i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin, mae Coedwig Brechfa o fewn Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Nod Trydan yw datgloi potensial ynni adnewyddadwy Cymru. Drwy geisio datblygu ynni adnewyddadwy ar dir sy'n eiddo’n bennaf i Lywodraeth Cymru, megis ei hystad goetir fel Coedwig Brechfa, mae Trydan yn ceisio gwneud y gorau o werth y tir hwn a'n hadnoddau naturiol i bobl Cymru.

Mae gwaith dichonoldeb yn dangos y gallai Fferm Wynt arfaethedig Glyn Cothi ddarparu lle i hyd at 27 o dyrbinau gwynt modern, hynod effeithlon. Byddai'r prosiect yn gwneud cyfraniad pwysig at fynd i'r afael â diogeledd ynni a newid hinsawdd drwy ddarparu hyd at 162 MW o drydan glân, digon i bweru 144,000 o gartrefi cyffredin yng Nghymru.[1]

Mae'r goedwig yn cael ei rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac yn cwmpasu tua 6,500 hectar. Mae’n cael ei defnyddio ar gyfer cynhyrchu coed, yn darparu hamdden trwy ei llwybrau cerdded a beicio poblogaidd, ac mae eisoes yn gartref i brosiectau cynhyrchu ynni gwynt. Ni fydd ein cynigion yn atal y gweithgareddau parhaus o fewn y bloc coedwig rhag parhau, fel y maent yn ei wneud heddiw. Mewn gwirionedd, nod hyn yw sicrhau ein bod yn gwneud mwy i amddiffyn bywoliaethau, creu a chefnogi swyddi newydd, gofalu am natur, a chwarae ein rhan yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.


[1] Defnydd trydan cyfartalog blynyddol = 162 MW (capasiti gosodedig) x 0.3082 (ffactor llwyth pob gwynt) x 8760 awr / 3.032 MWh. Ffynhonnell: RenewableUK. Cronfa Ddata Ynni Gwynt y DU https://www.renewableuk.com/energypulse/ukwed/ Defnydd trydan domestig cymedrig yn ôl gwlad/rhanbarth. Ffynhonnell: Ystadegau Defnydd Trydan a Nwy Is-genedlaethol DESNZ Awdurdod Rhanbarthol a Lleol, Prydain, 2022 https://assets.publishing.service.gov.uk/media/65b12dfff2718c000dfb1c9b/subnational-electricity-and-gas-consumption-summary-report-2022.pdf

Map safle Glyn Cothi

Gweler y map cydraniad llawn yma

Cwrdd â Rheolwr y Prosiect

“Mae hwn yn safle da iawn ar gyfer fferm wynt, gydag adnodd gwynt da ac mewn ardal sydd eisoes yn cefnogi ynni gwynt. Rwy'n edrych ymlaen at fynd allan i gwrdd â phobl leol i rannu syniadau ar sut y gallwn wneud hwn y prosiect gorau posibl i Sir Gâr ac i Gymru."

David Thomas, Rheolwr Prosiect Fferm Wynt Glyn Cothi

 

 

Pam ydym ni wedi dewis y safle hwn?

Mae sawl rhan o Gymru yn darparu safleoedd rhagorol ar gyfer gwynt ar y tir. Gan ei bod wedi’i lleoli ar ymyl Môr Iwerydd, mae'r gwynt yn aml yn chwythu'n gryf yma, yn enwedig ar fryniau a llwyfandiroedd ucheldirol. Yng nghyswllt ein cynigion ar gyfer Glyn Cothi, mae'r gweithrediad coedwigaeth fasnachol eisoes yn gwneud defnydd da o'r tir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru. Gan weithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gallwn wneud hyd yn oed gwell defnydd o’r gofod, trwy roi seilwaith ynni adnewyddadwy sydd ei angen yn fawr yma.

Gwybodaeth am y prosiect

Amserlen ddangosol

Dod i adnabod y safle a'i nodweddion ffisegol, (e.e. pa mor gryf a chyson mae'r gwynt yn chwythu ar draws yr ardal sydd o ddiddordeb i ni?) a chasglu data penodol ar gynefinoedd (e.e. priddoedd) a rhywogaethau.

Oeddech chi'n gwybod y byddwn yn cynnal arolygon adaregol ac ecolegol sylweddol i ddeall y safle'n llawn? Ystyried llwybrau mynediad ar gyfer cludo llafnau tyrbinau gwynt i'r safle. Siarad â phobl a all ein helpu i ddeall y cyd-destun lleol.

Rhannu gwybodaeth gynnar am y prosiect a thrafodaethau cychwynnol am y prosiect gyda phobl leol.

Dechrau ymgysylltu â chymunedau lleol drwy fynychu cyfarfodydd a digwyddiadau.

Byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus anffurfiol, gan gynnwys cynnal digwyddiadau lleol, a gwrando ar yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthym.

Mae tipyn o ffordd i fynd o hyd cyn bod ein dyluniad wedi'i gwblhau, ac mae adborth lleol yn bwysig i'n helpu i fireinio'r dyluniad sy'n esblygu.

Byddwn yn cyflwyno Adroddiad Cwmpasu i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW), sy'n disgrifio'r prosiect ac yn gofyn am adborth PEDW ar ein cynlluniau cynnar.

Byddwn yn gwneud cais i Gyngor Sir Gaerfyrddin am ganiatâd cynllunio i godi mast meteorolegol ar y safle i fesur yr adnodd gwynt.

Byddwn yn parhau i siarad â phobl a gwrando arnynt.

Bydd yr holl adborth a dderbyniwn yn llywio'r cynlluniau a gyflwynir ar gyfer caniatâd cynllunio.

Ochr yn ochr â'r cais cynllunio, byddwn yn cyflwyno adroddiad ymgynghori, yn disgrifio'r ddeialog yr ydym wedi'i chynnal i glywed barn y gymuned a rhanddeiliaid, a sut yr ydym wedi'u hymgorffori yn ein dyluniad.

Penodir Arolygydd Cynllunio annibynnol i archwilio'r cais cynllunio, gan gynnwys yr holl sylwadau.

Yr Arolygydd sy'n penderfynu a oes angen gwrandawiad, ymchwiliad, neu sylwadau ysgrifenedig ychwanegol. Os felly, gallai'r Arolygydd wahodd partïon â diddordeb i gymryd rhan.

Yn dilyn argymhelliad gan yr Arolygydd.

Os caiff y cais cynllunio ei gymeradwyo, byddai unrhyw amodau a osodir ar y caniatâd cynllunio yn cael eu cyflawni ar y cyd â Chyngor Sir Gaerfyrddin. Byddai gwaith cyn-adeiladu i baratoi'r safle yn dechrau.

Amcangyfrifir hyd o 18-24 mis.

Cytunir ar Gynllun Rheoli Trafnidiaeth Adeiladu gyda'r awdurdod lleol ac mae'n nodi cyfyngiadau ar lwybrau trafnidiaeth ac oriau gwaith.

35 mlynedd o gynhyrchu ynni glân, adnewyddadwy a gwireddu buddion i Gymru.

Bwriad yr amserlen ddangosol hon yw rhoi trosolwg o'r broses ofalus y bydd Trydan yn ei dilyn, gyda'r nod o lunio'r prosiect gorau posibl. Gyda hyn, rydym yn golygu prosiect o'r dyluniad gorau, yn y lle iawn, i sicrhau buddion hirdymor i'r ardal leol ac i Gymru.